Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 6 Rhagfyr 2017
Amser y cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ôl cwestiwn 3.
(0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Yn dilyn y diweddaraf mewn cyfres hir o gyhoeddiadau am gau banciau lleol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i gyflwyno banc cyhoeddus yn unol ag ymchwil gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru?
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd bod Pinewood yn parhau i fod wedi'i ymrwymo'n llawn i barhau i weithredu ei stiwdio gyfredol yng Nghymru yn sgil y diffyg gwybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i gyfres o gwestiynau ysgrifenedig ar y mater hwn?
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ohirio pwerau ynni newydd o dan Ddeddf Cymru 2017?
(5 munud)
(30 munud)
NDM6596 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i gynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud polisi yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus.
(60 munud)
NDM6604 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar’ a gasglodd 8,791 o lofnodion.
P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar
(30 munud)
NDM6605 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Chatalonia sy'n dyddio o'r 1930au yn ystod rhyfel cartref Sbaen.
2. Yn nodi pleidlais Senedd Catalonia i gynnal refferendwm ar ymreolaeth.
3. Yn gresynu at ymateb llawdrwm Llywodraeth Sbaen a'i phenderfyniad i gadw rhai o gynrychiolwyr etholedig Catalonia yn y ddalfa.
4. Yn cefnogi hawl seneddau yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol eu dinasyddion.
(30 munud)
NDM6606 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y bydd y cyfnod hawlio o chwe wythnos ar gyfer pobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yn achosi caledi yn ystod cyfnod y Nadolig.
2. Yn ailddatgan bod diffyg sylfaenol yn y system credyd cynhwysol.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau lliniaru i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, ac osgoi cosbau, dros gyfnod y Nadolig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn am yr un cyfrifoldeb gweinyddol dros nawdd cymdeithasol â'r hyn sydd gan Lywodraeth yr Alban.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y cefnogir yr egwyddor tu ôl i gredyd cynhwysol yn eang, gan ddarparu'r cymorth cywir i geiswyr gwaith, ac wrth gwrs gan roi gofal priodol yn ei le ar gyfer pobl na allant weithio.
2. Yn croesawu'r pecyn eang a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch y newid i gredyd cynhwysol.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod, pe bai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol heb gyllid ychwanegol sylweddol gan y Deyrnas Unedig, y byddai hyn yn faich ariannol newydd ar Lywodraeth Cymru ac y byddai’n arwain at ddisgwyliadau, na ellir eu cyflawni, y gallai Llywodraeth Cymru fforddio gwneud taliadau mwy hael i hawlwyr.
(30 munud)
NDM6601 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Galw ar feddygon teulu i ymgymryd â sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 ymysg plant a phobl ifanc
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 2017